Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Mai 2019
Amser:
14.03 -
16.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5465
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Huw Irranca-Davies AC Delyth Jewell AC Suzy Davies AC |
Tystion: |
Nesta Lloyd-Jones, Conffederasiwn GIG Cymru Dr Tim Peppin, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Yr Athro Colin Riordan, Vice-Chancellor, Cardiff University Rob Stewart, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Mairwen Harris, Prifysgolion Cymru Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Paul Harrington, Llywodraeth Cymru Simon Brindle, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Rhys Morgan (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Elisabeth Jones (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth David Thomas (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding, ac roedd Suzy Davies yn bresennol fel dirprwy.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson.
1.4 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant gan ei fod yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru
ar yr UE .
1.5 Diolchodd y Cadeirydd i Mark Reckless am ei waith fel Aelod o'r Pwyllgor.
2.1 Derbyniwyd y cynnig.
3.1 Rhoddodd y tystion friff technegol i'r Aelodau ar fframweithiau cyffredin y DU.
3.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
6.1.1 Nodwyd y papur.
6.2.1 Nodwyd y papur.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Cytunodd yr Aelodau i gyflwyno adroddiad ar y cytundeb ar fasnachu nwyddau rhwng Gwlad yr Iâ, Norwy a’r DU oherwydd hepgoriadau sylweddol yn ei gwmpas o'i gymharu â pherthynas bresennol yr UE â Gwlad yr Iâ a Norwy o dan gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
9.2 Trafododd yr Aelodau gytundeb y DU / Norwy ar drafnidiaeth ffyrdd rhyngwladol, a’i nodi.
9.3 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i ofyn iddo egluro sut y mae telerau cytundeb y DU / Norwy ar drafnidiaeth ffyrdd ryngwladol yn wahanol i'r rhai ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd o dan Gytundeb presennol yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
10.1 Trafododd yr Aelodau yr ymweliad arfaethedig â Gogledd Cymru.
11.1 Trafododd yr Aelodau bapur gan y Gwasanaeth Ymchwil ar Ddeddfu ar gyfer y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a'r UE.